Y Grŵp Hollbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2013
Yn bresennol: Bethan Jenkins (Cadeirydd), Rhodri Glyn-Thomas, Jocelyn Davies, Christine Chapman, Dr John Cox, Jane Harries
Ymddiheuriadau: Julie Morgan
1 Materion yn ymwneud â Phalesteina
Cafodd OPIN-2013-0186 (Gwrthwynebu aneddiadau anghyfreithlon yn Nhiriogaeth Feddianedig Palestina) 17 o lofnodion. Roedd hyn yn ymateb da gan nad oedd aelodau'r llywodraeth i fod i lofnodi Datganiadau Barn.
Dywedodd John fod deiseb yn ymwneud â'r un pwnc wedi'i wrthod gan Glerc y Pwyllgor Deisebau gan nad oedd materion rhyngwladol yn rhan o gylch gwaith y Cynulliad Cenedlaethol. Credai'r darpar ddeisebwyr ei bod yn warthus eu bod yn cael eu rhwystro rhag cyflwyno deiseb ar fater er y gallai Aelodau wneud hynny ar ffurf Datganiad Barn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i ofyn iddo esbonio'r rheolau o ran yr hyn y caiff / na chaiff y Pwyllgor hwnnw ei ystyried.
Cyfeiriodd Jane at lythyr a gafodd gan Alan Davies yn y wneud â labelu cynnyrch o Israel a'r Tiriogaethau Meddianedig, a chytunodd i'w ailddosbarthu er mwyn i'r Pwyllgor fedru penderfynu a fyddai'n briodol cymryd camau pellach.
2 Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru:
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi ei adroddiad sy'n gefnogol i'r egwyddor o sefydlu Academi Heddwch Cymru gan argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol hwyluso trefniadau i'r deisebwyr, y byd academaidd a'r gymdeithas sifil gydweithredu ymhellach. Anfonwyd yr adroddiad ymlaen i swyddfa'r Prif Weinidog cyn y caiff ei drafod yn y Senedd
3 Adolygu'r cyfarfod â Bruce Kent ar 13 Tachwedd:
Cafwyd cyfarfod da. Bydd Bethan yn dosbarthu nodiadau'r cyfarfod.
4 Bradley Manning:
Roedd 10 o Aelodau wedi llofnodi'r llythyr agored yn cefnogi Bradley (Chelsea) Manning.
5. Materion gweinyddu:
Mae'r rheolau newydd yn ymwneud â grwpiau trawsbleidiol yn cynnwys cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol (gan gyhoeddi'r agenda ymlaen llaw) a chyflwyno cofnodion ac adroddiadau. Cytunwyd y dylem gynnal un cyfarfod busnes bob sesiwn (hy tri bob blwyddyn) ac un cyfarfod cyhoeddus neu ragor, gan ddechrau ym mis Ionawr.